Y Bartneriaeth ar gyfer Twristiaeth Antur a Diwydiant Awyr Agored Eryri


Eryri Bywiol

Grwp o bobl busnes rhydd eu barn ac annibynnol o Wynedd, Môn a Chonwy wledig a ffurfiwyd yn ddiweddar yw Eryri Effro.

Rydym wedi dyfod ynghyd yn sgil ein cyd-ddymuniad i hyrwyddo a diogelu'n well Twristiaeth Antur a'r Diwydiannau Awyr Agored cysylltiedig o fewn ein hardal ddaearyddol.

Gwelwn angen am grwp i uno a hel at ei gilydd yr holl elfennau sy'n rhoi i Dwristiaeth Antur a'r Diwydiannau Awyr Agored cysylltiedig eu swyn unigryw Eryri.

Mae amrywiaeth eang o'r elfennau hynny i'w cael o fewn y grwp, yn cynnwys Hyfforddwyr ar eu liwt eu hun, Penaethiaid Canolfannau Awyr Agored a Chwmnïau Datblygu Rheolaeth at Weithgynhyrchwyr Cyfarpar, Adwerthwyr a'r Diwydiannau Gwasanaeth.

Credwn mai'r ffordd orau o warchod buddiannau ein diwydiant, ei gwsmeriaid a'r amgylchedd yw trwy ddod at ein gilydd i hyrwyddo a datblygu'r cyfraniad gwerthfawr a wnawn i'r economi lleol.

 


photo: Ray Wood