Y Bartneriaeth ar gyfer Twristiaeth Antur a Diwydiant Awyr Agored Eryri


Mae gennym tri prif nod eang:

1.

Cefnogi a datblygu Twristiaeth Antur a'r Diwydiannau cysylltiedig yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy Wledig.
2. Cynrychioli a diogelu diddordebau'r diwydiant awyr agored a'i ddefnyddwyr o fewn y rhanbarth
3. Hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth rhwng ymwelwyr, busnesau a'r gymuned leol

Bydd y Bartneriaeth yn cyflawni ei nodau drwy:

Marchnata
• Marchnata diwydiannau awyr agored a busnesau twristiaeth antur ar y cyd
• Hyrwyddo chwaer ddiwydiannau drwy gyrff cyswllt
• Creu hunaniaeth brand a logo
• Hyrwyddo'r ardal fel canolfan twristiaeth antur y DG
• Promotion of adventure events within the area
• Cynyddu nifer yr ymwelwyr antur sy'n dod i'r rhanbarth am y tro cyntaf
• Cynyddu nifer ymwelwyr dychwelyd cynaliadwy i'r rhanbarath
• Hyrwyddo'n weithredol twristiaeth antur i bobl o bob oedran a gallu


Datblygu
• Datblygu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd i'r gweithlu lleol
• Cynyddu cyflogaeth blwyddyn gron gynaliadwy
• Cynyddu CMC yr economi lleol
• Llunio strategaeth gyfannol gyda chyrff eraill
• Cynyddu'r cyfleusterau antur sydd ar gael i bawb
• Cydweithio i sicrhau mynediad pellach yn yr awyr agored
• Annog sensitifrwydd pob datblygiad i egwyddorion a thraddodiadau y gweithgareddau

Cefnogaeth
• Cynorthwyo busnesau presennol a newydd amrywiol sy'n cydweddu
• Bod yn lladmerydd ar ddatblygiad gweithgareddau antur awyr agored
• Annog aelodau'r bartneriaeth i rwydweithio a llunio cadwyn gyflenwi gref o fewn y
   rhanbarth
• Cyfnewid adborth rhwng y bartneriaeith a chyrff cysylltiol eraill


Gwasanaeth
• Archwilio'r posibiliadau o siarter ansawdd gwasanaeth ar gyfer yr aelodau
• Annog argaeledd gwasanaethau gydol y flwyddyn
• Hybu gwerth am arian a phrofiad cadarnhaol


Cymuned ac Amgylchedd
• Hybu ymwybyddiaeth a chreu strategaethau i ddatblygu materion yn ymwneud â
   chymuned, diwylliant ac amgylchedd
• Annog datblygiadau cynaliadwy effaith isel
• Gwella ansawdd amgylcheddol cydnaws â gofynion y diwydiant
• Cydweithio mewn partneriaeth â'r gymuned lleol i hybu gwell dealltwriaeth o'r
   buddiannau economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol